Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ystradgynlais |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.777°N 3.789°W |
Cod OS | SN757112 |
AS/au y DU | David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol) |
Pentref yn ardal Brycheiniog, Cymru, yw Cwm-twrch (hefyd Cwmtwrch).[1] Mae ffiniau tair sir yn cyffwrdd yma. Mae'r pentref yn gorwedd yng nghymuned Ystradgynlais, Powys, yn bennaf ond mae rhannau ohono yn gorwedd ym mwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot a Sir Gaerfyrddin. Mae'n ymrannu yn Gwm-twrch Isaf a Chwm-twrch Uchaf.
Gorwedd y pentref yn rhan uchaf Cwm Tawe, tua 15 milltir i'r gogledd o ddinas Abertawe. Llifa Afon Twrch trwyddo ar ôl disgyn o lethrau'r Mynydd Du a'r Fforest Fawr.
Mae rhai yn credu fod ail elfen yr enw, "twrch", yn cyfeirio at y Twrch Trwyth y mae Arthur yn hela trwy dde Cymru yn y chwedl ganoloesol Culhwch ac Olwen. Ond mae "twrch" (baedd gwyllt) yn elfen bur gyffredin mewn enwau lleoedd.
Ceir ffynnon sanctaidd yn y pentref.