Math | anheddiad dynol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.07882°N 3.91302°W |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Adam Price (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Jonathan Edwards (Annibynnol) |
Pentref yn Sir Gaerfyrddin yw Cwrt-y-cadno. Lleolir ar lôn gefn, i'r gogledd o Pumsaint a Llandre oddi ar ffordd yr A842 rhwng Llanbedr Pont Steffan a Llanwrda. Dynodir canol y pentref gan Gapel Methodistiaidd Cwrt-y-cadno, a adeiladwyd tua 1800.[1]
Bu Cwrt-y-cadno yn groesffordd bwysig unwaith, gan ei fod ar lwybr y porthmyn o Geredigion i farchnad Smithfield yn Lloegr. Yng Nghwrtycadno byddai'r gwartheg yn cael eu pedoli er mwyn amddiffyn eu carnau, a lle bu dŵr a phorfa ar gael ar gyfer y gyr. Roedd hen-deidiau Geraint Griffiths yn ofaint yn ffermydd Cwrt a Nant Gwasanaeth am sawl cenhedlaeth.[2]
Ar ddiwedd y 18g a dechrau'r ganrif olynol, roedd Cwrt-y-cadno yn adnabyddus trwy Gymru fel cartref y Dr John Harries (m. 1839), gŵr anghyffredin a ystyrid yn ddewin, neu Ddyn Hysbys, a allai wella afiechydon o bob math, tawelu ysbrydion drwg a darogan y dyfodol. Credid fod ganddo lyfr o swyngyfareddau.[3]
Mae'r Afon Cothi yn llifo drwy'r pentref; yma mae'n dechrau lledaenu wedi tarddu tua pum milltir i'r gogledd.
Mae plant y pentref yn mynychu'r ysgol gynradd Gymraeg leol, Ysgol Gynradd Caio.