Cwthbert neu o bosib 'Cynbryd' Cuthbert | |
---|---|
Ffenestr liw yn Eglwys Crist, Dulyn, yn darlunio Sant Cwthbert. | |
Esgob | |
Ganwyd | c. 634 Dunbar, Teyrnas Northumbria (yr Alban) |
Bu farw | 20 Mawrth 687 Ynysoedd Farne, Teyrnas Northumbria (bellach yn Lloegr) |
Mawrygwyd yn | Yr Eglwys Gatholig; Anglicaniaeth; Eglwys Uniongred Ddwyreiniol |
Prif gysegr | Eglwys Gadeiriol Durham, Swydd Durham |
Gwyliau | 20 Mawrth (yr Eglwys yn Lloegr); 4 Medi (yr Eglwys yng Nghymru); 31 Awst (Eglwys Episgobaidd (UDA)) |
Symbol/au | Esgob yn gafael mewn pen gyda choron arno; weithiau ceir anifeiliaid, yn enwedig adar yr arfordir. |
Nawddsant | Northumbria |
Sant a mynach o'r Eglwys Northumbriaidd neu'r Eglwys Geltaidd oedd Cwthbert neu Gwthbert o Lindisfarne (tua 634 – 20 Mawrth 687). Roedd yn esgob ac yn feudwy a gysylltir gyda mynachlogydd Maolros (ystyr: 'moel' a 'rhos'; Gaeleg: Maol-Rois; Melrose yn Saesneg) a Lindisfarne (hen enw Cymraeg: Ynys Metcaud) yn yr hen deyrnas a ellir heddiw ei galw'n Deyrnas Northumbria yng ngogledd-ddwyrain Lloegr ac a ffurfiwyd allan o'r hen deyrnas Geltaidd Brynaich tua 634.
Daeth yn un o seintiau pwysicaf Gogledd Lloegr - wedi iddo farw, gyda chwlt o ddilynwyr wedi eu canoli o amgylch ei feddrod yn Eglwys Gadeiriol Durham. Ef yw nawddsant Gogledd Lloegr a chynhelir ei ddiwrnod gŵyl ar 20 Mawrth a 4 Medi.
Mae'n debygol iddo gael ei eni a'i fagu'n agos at Abaty Moelros, un o chwaer abatai Lindisfarne, sydd heddiw wedi'i leoli yng Ngororau'r Alban. Dywedir iddo gael troedigaeth yn 651 a dod yn fynach wedi iddo weld rhith o ysbryd Sant Aidan yn dringo i'r nefoedd ar yr union noson ac y bu Aidan, a sefydlodd Lindisfarne, farw. Rhoddwyd iddo swydd yn Abaty Ripon bron ar unwaith, ond gwnaed Wilfrid yn ben arni ychydig wedyn a dychwelodd Cwthbert gydag Eata o Hexham i Foelros.[1] Tua 662 fe'i wnaed yn brior yn Lindisfarne ac yn 684 dyrchafwyd ef yn esgob. Ond, unwaith eto, byr ydoedd yno a dychwelodd i Foelros wedi cwta dwy flynedd. Dychwelodd gan ei fod yn credu ei fod am farw, er nad oedd ond yn ei 50au.[2]
Dywedir iddo droi'n feudwy eto ar ddiwedd ei oes, gan encilio i fan ger Holburn a elwir hyd heddiw yn Ogof Cwthbert, ac oddi yno aeth i ynysoedd mewnol Ynysoedd Farne (dwy filltir o Bamburgh), gan fyw o'r llaw i'r genau. Dywedir iddo, yn 676, greu deddfau a oedd yn gwarchod anifeiliaid yr ynys, gan gynnwys yr hwyaden. Bu farw yn 687.