Enghraifft o'r canlynol | brwydr |
---|---|
Dyddiad | 2002 |
Rhan o | Operation Defensive Shield |
Lleoliad | Jenin |
Gwladwriaeth | Gwladwriaeth Palesteina |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Digwyddodd Cyflafan Jenin (enw'r Palesteiniaid, Amnest Rhyngwladol, UNRWA a'r Cenhedloedd Unedig am y digwyddiad) neu Brwydr Jenin (enw'r Israeliaid ac eraill arno) o'r 3ydd i'r 11eg o Ebrill, 2002 yng ngwersyll ffoaduriaid Jenin, a reolir gan Awdurdod Cenedlaethol Palesteina ac sy'n cael ei redeg gan UNRWA, yn Y Lan Orllewinol, Palesteina. Ymosododd unedau Llu Amddiffyn Israel (IDF) ar Jenin fel rhan o'r hyn a elwir gan Israel yr "Ymgyrch Tarian Amddiffynnol" (Operation Defensive Shield), yn ystod yr Intifada Al-Aqsa (neu'r Ail Intifada).
Fel rhan o'r ymgyrch aeth yr IDF i mewn i sawl dinas a thref yn y Lan Orllewinol. Un o'r targedau oedd Jenin a'i gwersyll ffoaduriad am ei bod, yn ôl yr Israeliaid, "yn gwasanaethu fel canolfan i lawnsio sawl ymosodiad terfysgol" yn erbyn Israel.
Yn ystod yr ymladd yn y gwersyll, sibrydid fod cyflafan yn digwydd yno. Roedd Jenin wedi cael ei hamgylchynu gan yr Israeliaid, ond adroddwyd fod sifiliaid Palesteinaidd yn cael eu claddu'n fyw dan eu cartrefi wrth iddynt gael eu dinistrio gan fwldosers arfog yr IDF, bod hofrenyddion Israelaidd yn "saethu heb wahaniaethu at ardal sifilaidd", a bod yr Israeliaid yn gwrthod i ambiwlansus a gweithwyr parafeddygol fynd i mewn am 10 diwrnod gan adael i'r anafiedig waedu i farwolaeth.[1] Ar ôl i'r Israeliaid dynnu allan, cafwyd fod rhannau sylweddol o wersyll Jenin wedi'u dinistrio. Roedd rhwng 52 a 56 o Balesteiniaid wedi eu lladd, gyda hyd at 26 ohonynt yn sifiliaid (mae'r ffigyrau yn ddadleuol, gyda Israel yn dweud mai dim ond 5 o sifiliaid a laddwyd). Anafwyd rhai cannoedd o Balesteiniaid, tua eu hanner yn sifiliaid. Lladdwyd 23 o filwyr yr IDF gan wrthsafwyr Palesteinaidd, a oedd yn cynnwys aelodau o Fatah, Hamas a'r Jihad Islamig.