Cred neu athrawiaeth grefyddol yw cynfodolaeth sydd yn haeru bodolaeth yr enaid cyn y bywyd presennol.[1] Gelwir y rhai a gredant yng nghynfodolaeth eneidiau yn gynfodoliaid. Credant nid yw'r enaid yn uno â'r corff hyd nes y cenedlir neu y genir y person y byddai wedi ei bwriadu ar ei gyfer.
Arddelai cynfodolaeth gan sawl athroniaeth ac enwad yn yr Henfyd, ac y mae wedi bod yn gred gyffredin gan gyfrinwyr hen a diweddar. Dyma ydoedd barn Pythagoras, Platon a’i ganlynwyr, a’r Cabalyddion ymysg yr Iddewon.
Yng Nghristnogaeth, cynfodolaeth eneidiau yw’r athrawiaeth fod Duw, yng nghreadigaeth y byd, wedi creu eneidiau'r holl ddynolryw. Dysgid yr athrawiaeth gan Justin Ferthyr, Origen, ac eraill o Dadau'r Eglwys. Cafodd y gred ei chondemnio gan Synod Caergystennin yn y 540au. Gelwir yr athrawiaeth ddiwinyddol sy'n dal bod yr enaid yn cael ei greu yn uniongyrchol pan y cynhyrchir y corff yn greadaeth yr enaid, a'r athrawiaeth sy'n dal ei fod yn cael ei genhedlu gan y rhieni yn draddugiaeth.