Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 940, 905 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 10,839.85 ha |
Cyfesurynnau | 52.055°N 3.957°W |
Cod SYG | W04000501 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Adam Price (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Jonathan Edwards (Annibynnol) |
Cymuned yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Cynwyl Gaeo. Saif i'r gogledd-orllewin o dref Llanymddyfri, ger y ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Cheredigion ac yn rhan uchaf Dyffryn Cothi. Mae'n cyfateb yn fras i hen gwmwd Caeo, ac yn cynnwys pentrefi Caeo, Crug-y-bar, Cwrtycadno, Ffarmers a Phumsaint.
Ymhlith nodweddion diddorol yr ardal mae mwynfeydd aur Dolaucothi, a weithiwyd gan y Rhufeiniaid. Gerllaw roedd plasdy Dolaucothi, lle llofruddiwyd y perchennog, John Johnes, gan ei fwtler yn 1876. Dymchwelwyd y plasdy yn 1952.
Cynrychiolir Cynwyl Gaeo yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Jonathan Edwards (Annibynnol).[1][2]