Rhanbarth seryddol yn yr awyr o safbwynt rhywun yn edrych o'r ddaear yw cytser. Ceir 88 ohonyn nhw heddiw yn hemisfferau'r De a'r Gogledd ac maen' nhw'n dilyn ffiniau cydnabyddiedig. Mae cytser yn cynnwys nifer o sêr a galaethau a chyrff nefol eraill sy'n aml yn dwyn enw'r cytser, e.e. Messier 31, 'Y Galaeth Troellog yn Andromeda'.
Yn wreiddiol grwpiau o sêr heb ffiniau gosodedig oedd y cytser yn hemisffer y Gogledd, gyda phob un yn cynrhychioli duw, duwies neu anifail mytholegol, fel Andromeda, Draco, Perseus a Cassiopeia. Mae eu henwau'n Lladin ac yn deillio o chwedlau Groeg yr Henfyd. Mae enwau'r cytser yn hemisffer y De yn fwy diweddar.
Fe wnaeth yr Undeb Seryddol Rhyngwladol gydnabod 88 cytser yn swyddogol ym 1922. Fe ddiffiniodd yr Undeb ffiniau swyddogol ychydig wedi hynny.