Dafydd ap Gwilym | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | c. 1320 ![]() Ceredigion, Brogynin Fawr ![]() |
Bu farw | c. 1380 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | bardd, llenor ![]() |
Blodeuodd | 1340 ![]() |
Mam | Ardidvil ![]() |
Un o feirdd enwocaf Cymru a ystyrir yn feistr mawr y cywydd a'r canu serch oedd Dafydd ap Gwilym (tua 1320 - tua 1380). Fe'i cydnabyddir fel un o feirdd pwysicaf Ewrop gyfan yn ei gyfnod. Roedd yn canu yng nghyfnod Beirdd yr Uchelwyr; credir iddo gael ei eni rhywbryd rhwng 1320 - a 1330 ym mhlwyf Llanbadarn Fawr ger Aberystwyth. Meistrolodd y mesur caeth newydd a ddaeth i fri yn y cyfnod hwn sef y cywydd. Credir iddo farw tua 1380 ac iddo gael ei gladdu yn Abaty Ystrad Fflur.