Our website is made possible by displaying online advertisements to our visitors.
Please consider supporting us by disabling your ad blocker.

Responsive image


Damcaniaeth adeiledd cymdeithasol

Mae damcaniaeth adeiledd cymdeithasol yn syniad sydd wedi ennill poblogrwydd ymysg cymdeithasegwyr ers ei gyflwyniad yn ail ran yr 1960au. Mae’n honni bod ein dealltwriaeth a’n hymwybyddiaeth o’r byd wedi eu seilio ar fframweithiau meddyliol a luniwyd gan gymdeithasau. Trwy fwydo i mewn i’r prosesau rydyn ni’n eu defnyddio i ffurfio a chreu gwybodaeth, mae’r strwythurau yma yn dylanwadu ar y lefel sylfaenol o sut rydym ni’n meddwl am y byd o’n cwmpas a’n bywydau ni.

Trwy ystyried gwybodaeth fel rhywbeth sydd yn cael ei ‘greu’ trwy brosesau sy’n gwerthuso a derbyn rhai esboniadau neu ddamcaniaethau tra’n gwrthod eraill, gallwn ddechrau meddwl am ein gwybodaeth o’r byd fel rhywbeth detholus, sy’n agored i drafodaeth a chyfryngiad. Yn aml, mae rhan cymdeithas yn y broses o ddatblygu gwybodaeth yn anodd ei hadnabod, gan ei bod yn gweithredu ar ein systemau gwybodaeth ar gymaint o wahanol lefelau, ac yn creu sgerbydau cysyniadol i ni gael adeiladu ein delwedd o’r byd. Mor ganolog yw’r sail gysyniadol sgerbydol hon, fel ein bod yn ei chymryd yn ganiataol. Mae cefnogwyr damcaniaeth adeiledd cymdeithasol, yn mynnu bod adeileddau cymdeithasol yn bwysig nid yn unig oherwydd yr hyn y maent yn ein galluogi ni i weld a deall am y byd o’n cwmpas, ond y pethau sydd y tu allan i ystod eu hamgyffrediad. Hynny yw, yr hyn nad ydynt yn caniatáu i ni weld neu feddwl.

Mae ein gwybodaeth am y byd yn dilyn yr offer cysyniadol a methodolegol sydd ar gael i ni. Ymysg cymdeithasau cyn-wyddonol er enghraifft, fe seiliwyd eu gweledigaeth o’r byd, a’u dealltwriaeth o’r hyn a welsant, ar ofergoeledd a systemau cred. Ceir tystiolaeth o hyn yn y gwahanol esboniadau hanesyddol a gynigwyd ar gyfer clefydau, siâp y byd, sêr a chysawd yr haul er enghraifft. Ond, dros amser, mae gwyddoniaeth wedi cymryd lle traddodiad a chrefydd, i fod yn ddylanwad canolog ar sut rydyn ni’n meddwl am y byd.

Mae damcaniaeth adeiledd cymdeithasol hefyd yn awgrymu bod yr adeileddau cymdeithasol yma yn hunangynhaliol, ac yn adeiladu a gwireddu eu hunain. Hynny yw, maent yn barhaol yn creu gwybodaeth a ffyrdd o weld sydd yn atgyfnerthu eu persbectif. Er enghraifft, mae ‘gwyddoniaeth’ yn adeiledd cymdeithasol sydd yn creu ei resymu ei hun i gyfiawnhau ei safbwynt; nid yn unig fel dyfais neu ddull effeithiol o ymdrin a darganfod mathau arbennig o wybodaeth ond, yn hytrach, fel rhywbeth â rhesymeg hunanamlwg sydd yn awdurdodi dros ddulliau arall o feddwl a deall. Os nad ydy rhywbeth yn cyfateb i egwyddorion a meini prawf gwyddoniaeth, fe’i gelwir yn ‘anwyddonol’. Mae’r disgrifiad yma yn cyfleu mwy na disgrifiad o rywbeth sydd ddim yn dilyn arddull ‘gwyddonol’, mae ef hefyd yn awgrymu gwall neu ddiffyg deallusrwydd o ryw fath, gan fod gwyddoniaeth wedi lleoli ei hun mewn safle o awdurdod dros ddeallusrwydd. Er bod modd dangos gwallau yn y ffordd y’i defnyddiwyd (megis dulliau gwallus), nid oes ffordd hawdd o ddadlau yn erbyn rhesymeg ‘gwyddoniaeth’, gan ei fod yn dominyddu’r drafodaeth ar beth yw gwybodaeth ‘gywir’ a ‘gwir’. Meddyliwch, er enghraifft, am y gymhariaeth rhwng meddygaeth homeopathi a meddygaeth ‘wyddonol’ y gorllewin. Un o’r prif ddadleuon yn erbyn homeopathi yw’r ffaith na ellir profi ei fod yn gweithio trwy ddefnyddio dulliau gwyddonol. Beth mae hyn yn ei ddangos yw, er mwyn i fathau amgen o wybodaeth (sydd yn aml yn cyfiawnhau eu gwirionedd mewn ffyrdd ‘anwyddonol’ fel traddodiad, hanesion gwerinol, a phrofiadau personol) gael eu credu a’u parchu gan gymdeithas yn gyffredinol, rhaid iddynt basio meini prawf fframweithiau cysyniadol dominyddol. Ar hyn o bryd, un fframwaith cysyniadol sy’n dominyddu ein deallusrwydd, a gwyddoniaeth yw hwnnw.

Er eu bod yn dylanwadu yn enfawr ar ein bywydau a’n meddylfryd pob dydd, o lefel ymddygiad personol i economeg, mae’n anodd adnabod adeileddau cymdeithasol sydd yn gweithredu arnom ar y pryd, gan mor nerthol a threiddgar ydynt. Er mwyn i ni eu synhwyro, mae’n rhaid i ni eu gweld mewn cyd-destun gwahanol. Yn hanesyddol er enghraifft, fe allwn gymharu olion dealltwriaeth cymdeithasau cynt er mwyn adnabod gwahaniaethau rhwng eu hesboniadau nhw am y byd, a’r hyn a gredwn ni. Ambell waith, ceir digwyddiad neu gyfres o ddigwyddiadau arwyddocaol sydd yn chwyldroi’r systemau gwybodaeth ddominyddol, ac fe all effeithiau hyn ymddangos yn raddol dros amser, neu fel sialens ddramatig i’r system ddealltwriaeth a fu.

Gall presenoldeb adeileddau cymdeithasol sydd yn gweithredu ar yr un pryd hefyd ddod i’r golwg, trwy gymharu gwahanol ddiwylliannau. Mae meddylfryd bydol cymdeithasau Bwdïaidd neu Islamaidd, er enghraifft, yn o wahanol i’r hyn a welir yn agweddau a dealltwriaeth cymdeithasau seciwlar, ond ceir goleuni ar eu gwahanol safbwyntiau drwy eu cymharu.

Bellach, mae dadleuon i’w cael ynglŷn â statws adeiledd cymdeithasol cysyniadau fel crefydd, rhyw, natur, a’r economi, ond fel y nodwyd uchod, mae'r rhain yn strwythurau dwfn a chreiddiol, ac mae’r broses o’u herio a’u diwygio yn un hir a chymhleth.


Previous Page Next Page