David Jones | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 1 Tachwedd 1895 ![]() Brockley ![]() |
Bu farw | 28 Hydref 1974 ![]() Harrow ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, bardd, darlunydd, llenor, cerfiwr coed, engrafwr plât copr, caligraffydd, cymynwr coed ![]() |
Adnabyddus am | In Parenthesis ![]() |
Tad | James Jones ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Bollingen, CBE, Gwobr Russell Loines am Farddoniaeth, Gwobr Hawthornden ![]() |
Arlunydd a bardd oedd David Jones (1 Tachwedd 1895 – 28 Hydref 1974), a aned yn Arabin Road, Brockley, Caint, Lloegr. Ym 1965, dywedodd Kenneth Clark mai David Jones oedd yr arlunydd Prydeinig byw, gorau, tra gosododd T. S. Eliot a W. H. Auden ei farddoniaeth ymhlith y gwaith gorau a ysgrifennwyd yn 20g.[1] Y ddau ddylanwad mwyaf ar waith Jones yw ei ffydd Gristnogol a'i etifeddiaeth Gymreig.
Roedd ei dad yn oruchwyliwr mewn argraffdy yn Sir y Fflint cyn symud i fyw i Loegr yn 1885, a Saesnes oedd ei fam. Er i David Jones gael ei eni yn Lloegr roedd yn ymwybodol iawn o'i Gymreictod, ffaith a welir yn aml yn ei waith fel bardd ac arlunydd. Enillodd Wobr Hawthornden ym 1938 am ei gerdd In Parenthesis.
Roedd yn ddisgybl i Eric Gill ac yn ffrind i Saunders Lewis, Aneirin Talfan Davies a Vernon Watkins.