Mae dawns neu dawnsio (o'r Ffrangeg danser) yn gelfyddyd, ymarfer corff neu ddifyrwaith sydd, yn ei hanfod, yn gyfres o gamau ac ysgogiadau corfforol rhythmig gan unigolyn, parneriaid neu grŵp o bobl, fel rheol i gyfeiliant cerddoriaeth. Mae'n cymryd sawl ffurf ac mae ei gwreiddiau yn hynafol iawn gyda pherthynas agos â hanes cerddoriaeth a defodau crefyddol; gwelir olion o hynny yn y dawnsiau gwerin traddodiadol.
Mae'r diffiniad o beth yn union yw dawns yn dibynnu ar gyfyngiadau cymdeithasol, diwylliannol, artistig a moesol. Mae'n amrywio o symudiadau gweithredol (megis dawnsio gwerin) i dechnegau meistrolgar fel ballet. Gellir cymryd rhan mewn dawns neu ei berfformio ar gyfer cynulleidfa. Gall fod yn seremonïol, cystadleuol neu'n rywiol hefyd. Gall dawns ymgorffori neu fynegi syniadau, emosiynau neu adrodd stori.
Mae dawns wedi esblygu i nifer o ddulliau gwahanol. Mae breg-ddawnsio yn gysylltiedig â diwylliant hip hop. Mae dawns Affricanaidd yn ddeongliadol. Dulliau clasurol o ddawns yw ballet, ballroom, y waltz a'r tango tra bod Sgwâr a'r Llithriad Trydanol yn fathau o gamau dawns.
Mae gan bob dawns, waeth beth fo'i ffurf, rhywbeth yn gyffredin. Nid yn unig mae angen cael hyblygrwydd a symudiad corfforol ond rhaid cael ffiseg hefyd. Os na ystyrir y ffiseg cywir, gellir disgwyl cael anafiadau.
Coreograffiaeth yw'r celfyddyd o greu dawnsiau. Gelwir person sy'n creu (h.y. coreograffio) dawns yn goreograffwr.