![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Llanddeiniolen ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.146°N 4.121°W ![]() |
Cod OS | SH581631 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Siân Gwenllian (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Hywel Williams (Plaid Cymru) |
![]() | |
Pentref yng nghymuned Llanddeiniolen, Gwynedd, Cymru, yw Deiniolen[1][2] ( ynganiad ). Saif yn ardal Arfon, rhwng Mynydd Llandygái a Llanberis ac wrth droed Elidir Fawr. Gerllaw iddo mae dau bentref llai, Dinorwig a Chlwt-y-Bont.
Tyfodd y pentref o ganlyniad i dwf Chwarel Dinorwig, sydd ychydig i’r de. Agorwyd Capel Ebenezer ym 1823 a Capel Cefn y Waen ym 1825. Symudodd llawer o bobl o Ynys Môn i'r pentref, gyda rhai o ardal Llanbabo yn benodol, gan egluro llysenw'r pentref, sef Llanbabo[3] neu Llanbabs[4].
Ym 1857 adeiladwyd Eglwys Llandinorwig ar gyrion y pentref, gydag arian gan deulu Assheton-Smith o’r Faenol, perchenogion Chwarel Dinorwig.
Bu trychineb yn yr ardal yn 1899, pan aeth trip Ysgol Sul Eglwys Llandinorwig i Bwllheli a boddwyd deuddeg o’r aelodau, naw ohonynt yn blant, pan ddymchwelodd cwch yn y bae yno.
Caewyd Chwarel Dinorwig yn 1967, ac effeithiodd hyn yn fawr ar economi’r ardal. Erbyn hyn tair siop sydd yn Neiniolen, Y Post, Crefftau Elidir a'r Co-op. Mae Menter Fachwen yn cynnal caffi yn y pentref, ac mae dau dafarn yno. Rhed wasanaethau bws rheolaidd oddi yno i Gaernarfon a Bangor. Mae ysgol gynradd yn y pentref o hyd, sef Ysgol Gwaun Gynfi.
Mae Seindorf Arian Deiniolen yn adnabyddus iawn yn yr ardal, a chynhelir eisteddfod flynyddol.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[5] ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).[6]