Deugotyledonau | |
---|---|
![]() | |
Magnolia | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ffylwm: | Magnoliophyta |
Dosbarth: | Brongniart |
Urddau | |
Llawer, gweler y rhestr |
Planhigion blodeuol â dwy had-ddeilen yw'r deugotyledonau (hefyd dicotyledonau, deuhad-ddail, deugibogion). Maent yn cynnwys tua 200,000 o rywogaethau.[1] Fe'u dosberthir yn y dosbarth Magnoliopsida (neu Dicotyledones) yn draddodiadol, ond mae astudiaethau o'u DNA a'u paill yn dangos bod nhw'n ffurfio sawl grŵp gwahanol; yr ewdicotau yw'r grŵp mwyaf ac maent yn cynnwys y rhan fwyaf o'r deugotyledonau.
Fel arfer, mae gan y deugotyledonau ddail llydan coesog gyda gwythiennau rhwydog ac organau blodeuol wedi'u trefnu mewn lluosrifau o bedwar neu bump.