Duwies reis ar ynysoedd Bali a Jawa yn Indonesia yw Dewi Shri (hefyd Dewi Sri, Dewi Asri). Mae'n gysylltiedig a'r Isfyd a'r Lleuad hefyd gyda grym dros dyfiant bwydydd y ddaear a marwolaeth. Mae hi'n ffurf gyfansawdd leol ar y duwiesau Hindŵaidd Devi a Sri.
Mewn chwedlau gwerin mae hi'n gysylltiedig a'i brawd Sedana (Sadhana). Mae rhai chwedlau yn ei chysylltu â neidr sy'n byw yn y meysydd reis (ular sawah). Mae pobl Jawa a Bali yn cadw cysegrfa iddi yn eu tai a addurnir â cherfiadau o'r neidr a chredant fod Dewi Shri yn eu bendithio â ffyniant a ffrwythlondeb.