Diana | |
---|---|
Tywysoges Cymru | |
Diana yn 1997 | |
Ganwyd | Diana Frances Spencer 1 Gorffennaf 1961 Sandringham, Norfolk, Lloegr |
Bu farw | 31 Awst 1997 Paris, Ffrainc | (36 oed)
Claddwyd | 6 Medi 1997 Althorp, Swydd Northampton, Lloegr |
Priod | Siarl, Tywysog Cymru (hwyrach Siarl III) (pr. 1981; ysg. 1996) |
Plant | |
Teulu |
|
Tad | John Spencer, 8fed Iarll Spencer |
Mam | Frances Roche |
Diana Spencer, a adnabyddir wrth ei theitl swyddogol fel Diana, Tywysoges Cymru (anfrodorol) (Diana Frances; née Spencer; 1 Gorffennaf 1961[1] – 31 Awst 1997) oedd gwraig gyntaf Y Tywysog Siarl. Ei meibion, y William, Tywysog Cymru a'r Tywysog Harri, Dug Sussex, yw'r ail a'r trydydd etifeddion yr orsedd ym Mhrydain a'r pymthegfed yn Nheyrnas y Gymanwlad.
Roedd Diana yn ffigwr cyhoeddus ers i'w dyweddiad i'r Tywysog Siarl gael ei gyhoeddi. Ers hynny roedd Diana bron yn ddi-baid, yn ganolbwynt ar gyfer archwiliadau'r wasg ym Mhrydain ac o gwmpas y byd, yn ystod ei phriodas ac yn dilyn ei hysgariad. Bu farw mewn damwain car ym Mharis. Daeth Ymchwiliad y Crwner, a oedd yn hir-ddisgwyliedig, i ben ym mis Ebrill 2008, a daeth i'r casgliad y lladdwyd Diana yn anghyfreithlon gan y gyrrwr a'r paparazzi a oedd yn ei herlid.[2]