![]() | |
Math | bwrdeistref fetropolitan, ardal gyda statws dinas ![]() |
---|---|
Ardal weinyddol | Manceinion Fwyaf, Hundred of Salford |
Prifddinas | Manceinion ![]() |
Poblogaeth | 568,996 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Bev Craig ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Manceinion Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 115.6486 km² ![]() |
Yn ffinio gyda | Bwrdeistref Fetropolitan Bury, Bwrdeistref Fetropolitan Oldham, Bwrdeistref Fetropolitan Rochdale, Dinas Salford, Bwrdeistref Fetropolitan Stockport, Bwrdeistref Fetropolitan Tameside, Bwrdeistref Fetropolitan Trafford ![]() |
Cyfesurynnau | 53.41667°N 2.25°W ![]() |
Cod SYG | E08000003 ![]() |
GB-MAN ![]() | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | gweithrediaeth Cyngor Dinas Manceinion ![]() |
Corff deddfwriaethol | cyngor Cyngor Dinas Manceinion ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | arweinydd Cyngor Dinas Manceinion ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Bev Craig ![]() |
![]() | |
Bwrdeistref fetropolitan ym Manceinion Fwyaf, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Dinas Manceinion (Saesneg: City of Manchester).
Mae gan y fwrdeistref arwynebedd o 116 km², gyda 552,858 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio Bwrdeistref Fetropolitan Trafford a Dinas Salford i'r gorllewin, Bwrdeistref Fetropolitan Bury a Bwrdeistref Fetropolitan Rochdale i'r gogledd, Bwrdeistref Fetropolitan Oldham, Bwrdeistref Fetropolitan Tameside a Bwrdeistref Fetropolitan Stockport i'r dwyrain, a Swydd Gaer i'r de.
Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Yn wreiddiol daeth o dan reolaeth cyngor sir fetropolitan Manceinion Fwyaf, ond ym 1986, fel yr holl fwrdeistrefi metropolitan eraill yn Lloegr, daeth yn awdurdod unedol i bob pwrpas.
Mae'r fwrdeistref yn ddi-blwyf am y rhan fwyaf, gydag un plwyf sifil (Ringway) i'r de. I bob pwrpas mae gan y fwrdeistref yr un ffiniau â dinas Manceinion.