Our website is made possible by displaying online advertisements to our visitors.
Please consider supporting us by disabling your ad blocker.

Responsive image


Dinorben

Dinorben
Bryngaer Dinorben yn ystod gwaith archaeolegol yn 1922.
Mathcaer lefal, safle archaeolegol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.2682°N 3.5488°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH968757 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethHenebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion

Bryngaer o faint anferthol ger arfordir gogledd Cymru oedd Dinorben (hefyd: Parc y Meirch, Pen y Parc a Pendinas).[1] Mae'n gorwedd ar fryn i'r de o bentref Llan Sain Siôr, ym mwrdeistref sirol Conwy, tua hanner ffordd rhwng Llanelwy ac Abergele. Cyfeirir ati weithiau fel 'Parc y Meirch', ar ôl yr ystâd gerllaw. Bellach, fe'i dinistrwyd yn llwyr gan waith Chwarel Parc-y-Meirch. Cyfeirnod OS: SH968757.

Cafodd y fryngaer ei chloddio gan archaeolegwyr yn 1912-22 ac yn achlysurol ers 1955 er mwyn cofnodi'r safle cyn ei ddinistrio gan waith cloddio'r galchfaen gan Chwarel Parc y Meirch. Mewn canlyniad mae'n un o fryngaerau mwyaf adnabyddus y gogledd i archaeolegwyr. O fewn y gaer cafwyd hyd i olion 60 o gytiau llwyfan cymharol eu maint, tebyg i'r rhai ym Moel Hiraddug a Moel Fenlli.[2] Ceir 30 o fryngaerau yng ngogledd Cymru (yr hen Glwyd). O fewn rhai o'r cytiau, ac wrth y brif fynedfa, cafwyd hyd i olion penglogau dynol.[3]

Roedd yn amgáu tua 2 hectar. Fe'i amddiffynnir gan greigiau calchfaen y bryn (safle'r chwarel heddiw) i'r gogledd a chyfres o waith amddiffynnol anferth i'r de. Ar ei hanterth, roedd yr amddiffynfeydd hyn yn cynnwys clawdd anferth gyda dau arall, llai, y tu allan iddo. Yn ei ffurf derfynol roedd gan y porth fynedfa hir o gerrig 10 medr o hyd gyda siambrau i amddiffynwyr yn ei ben mewnol. Y grêd yw bod amddiffynfeydd cyntaf y gaer wedi ei chreu gyda chlawdd o glai a atgyfnerthwyd â phren, a hyn o gwmpas 10fed ganrif C.C.. Yn dilyn llosgi'r pren ar ryw adeg, fe'i hail-adeiladwyd gyda wal cerrig sych a ffos is-law, a hyn tua'r 5ed ganrif C.C..[4]

Disgrifiwyd y fryngaer cyn ei chwalu gan Gardner, archaeolegydd fel hyn: "Cododd y clawdd mewnol enfawr, a oedd eisioes wedi'i herydu, 7 metr llawn uwchben wyneb y tir a bron i 12m uwchben llawr y ffos allanol... Mae hyn yn ei osod yn gyfartal â Maiden Castle yn Dorset, gwersyll aruthrol."[5]

Cafwyd hyd i olion nifer o gytiau tu mewn i'r muriau. Ar sail tystiolaeth y cloddio yn y cytiau hyn, sy'n cynnwys crochenwaith a darnau pres o'r 3edd a'r 4g OC, tybir fod y gaer yn dyddio o gyfnod Oes yr Haearn ac iddi gael ei defnyddio trwy gyfnod y Rhufeiniaid ac iddi barhau fel un o ganolfannau llwythol lleol y Deceangli brodorol yn y cyfnod ôl-Rufeinig. Cafwyd nifer o esgyrn ceirw yn ystod y cloddio. Credir bod y safle wedi bod mewn defnydd ers 1000 C.C., gydag un darn o bren wedi ei ddyddio o 945 ± 95 (dyddio radiocarbon).[4]

Darganfuwyd olion gweithio plwm a haearn yn y gaer. Cafwyd hyd i ddau glust bwced efydd ar ffurf pennau teirw, sydd ar gadw yn Amgueddfa Cymru, Caerdydd.

  1. Gwefan Coflein; adalwyd 13 Tachwedd
  2. The Archaeology of Clwyd (Cyngor Sir Clwyd; 1991); t.
  3. intarch.ac.uk; adalwyd 13 Tachwedd 2024.
  4. 4.0 4.1 Savory, H. N. (1971). Excavations at Dinorben, 1965-9,. Cardiff,: National Museum of Wales. ISBN 0-7200-0048-3. OCLC 447777.CS1 maint: extra punctuation (link)
  5. intarch.ac.uk; adalwyd 13 Tachwedd 2024.

Previous Page Next Page






Dinorben German

Responsive image

Responsive image