Enghraifft o: | melin drafod ![]() |
---|---|
Cysylltir gyda | William Howard Taft ![]() |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Term ar bolisi tramor yr Unol Daleithiau dan yr Arlywydd William Howard Taft (1909–13) yw Diplomyddiaeth y Ddoler. Cred Taft a'i Ysgrifennydd Gwladol, Philander C. Knox, oedd y dylai diplomyddiaeth Americanaidd anelu at greu trefn ryngwladol oedd yn fuddiol i ddiddordebau economaidd yr Unol Daleithiau.[1] Canolbwyntiodd Diplomyddiaeth y Ddoler ar America Ladin a Dwyrain Asia.
Wrth graidd y polisi oedd y gred y byddai buddsoddiad Americanaidd mewn gwledydd eraill yn creu sefydlogrwydd economaidd a gwleidyddol. Ceisiodd Taft a Knox berswadio gwledydd eraill i adael busnesau Americanaidd masnachu ynddynt ac i fenthyg o fanciau Americanaidd. Er y pwyslais ar ddulliau economaidd ac ariannol, nid oedd Diplomyddiaeth y Ddoler yn diystyru ymyrraeth wleidyddol neu filwrol.[2] Ym 1909 darparodd yr Unol Daleithiau gefnogaeth i Juan José Estrada yn ei wrthryfel yn erbyn José Santos Zelaya, Arlywydd Nicaragwa. Wedi i Zelaya gael ei ddymchwel, sicrhaodd Knox rheolaeth Americanaidd dan yr Arlywyddion Estrada ac Adolfo Díaz. Benthycodd Brown Brothers a J. and W. Seligman, dau fanc a leolir yn Efrog Newydd, $15 miliwn i Nicaragwa, ac fe gawsant reolaeth dros asiantaeth dollau'r wlad er mwyn sicrhau ad-daliad.[3]
Imperialaeth Newydd ( ) |
Codiad Imperialaeth Newydd |
Imperialaeth yn Asia |
Yr Ymgiprys am Affrica |
Diplomyddiaeth y Ddoler |
Damcaniaethau ar Imperialaeth Newydd |
Er ambell lwyddiant, ni allai Diplomyddiaeth y Ddoler atal chwyldroadau ym Mecsico, Nicaragwa, a Tsieina.[1]