Enghraifft o: | chwaraeon unigolyn, chwaraeon ar sail gêm, gêm bwrdd |
---|---|
Math | chwaraeon y meddwl, abstract strategy game |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Grŵp o gemau bwrdd strategol i ddau chwaraewr yw draffts (hefyd drafftiau neu gêm ddrafft). Mae'n cynnwys darnau gêm unffurf sy'n gwneud symudiadau croeslinol ac yn cipio trwy neidio dros ddarnau'r gwrthwynebydd. Mae'n tarddu o'r gêm alquerque,[1] a daw'r enw o'r ferf Saesneg sy'n golygu tynnu neu symud.[2]
Y ffurfiau mwyaf poblogaidd yw draffts Seisnig, a elwir hefyd (yn Saesneg) yn "American checkers", sy'n cael eu chwarae ar fwrdd brith 8 × 8; draffs Rwsiaidd, sydd hefyd yn cael ei chwarae ar fwrdd 8 × 8; a draffts rhyngwladol, sy'n cael ei chwarae ar fwrdd 10 × 10. Mae llawer o amrywiadau eraill yn cael eu chwarae ar fyrddau 8 × 8. Mae "Canadian checkers" a "Singaporean / Malaysian checkers" (a elwir yn lleol hefyd yn dum) yn cael eu chwarae ar fwrdd 12 × 12.
Llwyddwyd i ddatrys draffts ar ei ffurf 8 × 8 yn 2007 gan dîm o gyfrifiadurwyr o Ganada wedi'i arwain gan Jonathan Schaeffer. O'r safleoedd cychwyn arferol, gall dau chwaraewr sicrhau gêm gyfartal trwy chwarae perffaith.