![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.021°N 4.4°W ![]() |
Cod OS | SN354385 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Adam Price (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Ann Davies (Plaid Cymru) |
![]() | |
Pentref yng nghymuned Llangeler, Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Dre-fach Felindre[1] neu Felindre.[2] Saif 4 milltir i'r de-ddwyrain o Gastell Newydd Emlyn.
Ar un adeg roedd yn ganolfan bwysig iawn i'r diwydiant gwlân, a cheir Amgueddfa Wlân Cymru yma.
Yma y ganed y bardd ac awdur Aneirin Talfan Davies.