Math | adult human, bod dynol gwrywaidd |
---|---|
Y gwrthwyneb | dynes |
Rhan o | gwrywaidd a benywaidd |
Rhagflaenwyd gan | bachgen |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Bod dynol gwrywaidd aeddfed yw dyn (mewn cyferbyniaeth â dynes) ac mae'n cyfeirio at yr oedolyn yn unig; y ffurf ifanc yw 'bachgen'. Mae'r gair hefyd yn cynnwys merched ar adegau e.e.'Pa beth yw dyn i ti i'w gofio?' (Beibl) lle cyfeirir at y ddynoliaeth gyfan, ac mae'n perthyn i'r genws Homo.
Fel y rhan fwyaf o famaliaid, mae genome dyn yn etifeddu Cromosom X gan ei fam ac Y gan ei dad. Mae gan y ffetws gwrywaidd hefyd mwy o androgen a llai o estrogen na ffetws benyw. Y gwahaniaeth hwn sy'n gyfrifol am y gwahaniaethau ffisiolegol rhwng dyn a dynes. Hyd at y cyfnod glasoed, ychydig o wahaniaeth sydd rhwng y ddau ryw, ond yna, gyda'r hormonau yn ysgogi rhagor o androgen, mae'r gwahaniaeth rhwng nodweddion rhywiol y ddau ryw yn cael eu hamlygu.