Yn hanesyddol diwydiant trwm, yn enwedig cynhyrchu dur, oedd sail economi Casnewydd. Tyfodd y dref[1] yn gyflym yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, ac erbyn hanner cyntaf y 19g Casnewydd oedd brif dref y De gyda mwy o gyfoeth na Chaerdydd ac Abertawe gyda'i gilydd. Ar ôl eu gorffen, Dociau'r Hen Dref oedd y dociau mwyaf yn Ewrop yn anterth y diwydiant llongau. Yn y cyfnod ôl-ddiwydiannol mae'r ddinas wedi teimlo ergydion cau a lleihau'r gweithlu mewn gweithfeydd diwydiannol.[2]
Heddiw saif Casnewydd ar Goridor yr M4, rhwng prifddinas Cymru, Caerdydd, a Bryste yn Lloegr. Ym mlynyddoedd diweddar mae'r ddinas wedi buddsoddi'n uchel mewn sectorau economaidd modern, yn bennaf diwydiannau gwasanaethau ac uwch-dechnoleg. Yn y degawd diwethaf bu mwy na £3 biliwn o fuddsoddiad preifat a chrewyd dros 10 000 o swyddi. Mae Casnewydd ymhlith y pum lleoliad uchaf o ran sefydlu busnesau yn y Deyrnas Unedig.[2]
Casnewydd fydd yn cynnal Cwpan Ryder 2010 ar gwrs golff y Celtic Manor. Ystyrid y fydd hyn yn hwb i economi Casnewydd a Chymru i gyd, yn enwedig y diwydiant twristiaeth; rhagwelir y bydd y gystadleuaeth golff yn denu 30 000 o ymwelwyr ychwanegol i Gymru.[3] Yn ôl gwefan swyddogol y gystadleuaeth, "amcangyfrifir bod cynnal y digwyddiad yng Nghymru (gwerth) dros £40m mewn mewnlif arian uniongyrchol, gyda chyfanswm effaith gwariant o £67m o bosibl".[4]