Edward I, brenin Lloegr | |
---|---|
Ganwyd | 17 Mehefin 1239 Westminster |
Bu farw | 7 Gorffennaf 1307 Burgh by Sands |
Swydd | teyrn Lloegr, Arglwydd Iwerddon |
Tad | Harri III, brenin Lloegr |
Mam | Eleanor o Provence |
Priod | Elinor o Gastilia, Marged o Ffrainc |
Plant | Harri o Loegr, Elinor o Loegr, iarlles Bar, Joan o Acre, Alphonso, iarll Caer, Margaret o Loegr, duges Brabant, Mary o Woodstock, Elisabeth o Ruddlan, Edward II, brenin Lloegr, Thomas o Brotherton, iarll 1af Norfolk, Edmund o Woodstock, iarll 1af Caint, Eleanor o Loegr, Joan o Loegr, John o Loegr, Alice o Loegr, Juliana o Loegr, Berengaria o Loegr, Alice o Loegr, Isabella o Loegr, Beatrice o Loegr, Blanche o Loegr, Katherine of England |
Llinach | Llinach y Plantagenet |
Edward I (17 Mehefin 1239 – 7 Gorffennaf 1307),[1] a elwir hefyd yn Edward Hirgoes neu Morthwyl yr Albanwyr, oedd brenin Lloegr rhwng 1272 a 1307. Mae'n cael ei gofio fel goresgynnwr Cymru a'r Alban. Cyn iddo ddod yn frenin, cyfeiriwyd ato'n gyffredin fel Yr Arglwydd Edward. Roedd yn fab cyntaf i Harri III. O oedran ifanc roedd gan Edward ddiddordeb mawr yng ngwleidyddiaeth teyrnas ei dad, lle'r oedd llawer o wrthryfela gan farwniaid Lloegr. Ar ôl Brwydr Lewes ym 1264, cafodd Edward ei ddal yn wystl gan y barwniaid gwrthryfelgar, ond llwyddodd i ddianc ar ôl ychydig fisoedd gan drechu eu harweinydd Simon de Montfort ym Mrwydr Evesham ym 1265. Yna ymunodd Edward â Chroesgad i'r Wlad Sanctaidd. Roedd ar ei ffordd adref ym 1272 pan gafodd wybod bod ei dad wedi marw. Cyrhaeddodd Loegr ym 1274 a choronwyd ef yn Abaty Westminster.
Treuliodd Edward lawer o'i deyrnasiad yn diwygio gweinyddiaeth frenhinol a'r gyfraith. Ond, yn gynyddol, tynnwyd sylw Edward tuag at faterion milwrol. Ar ôl atal gwrthryfel yng Nghymru ym 1276–77, ymatebodd Edward i ail wrthryfel ym 1282–83 gyda rhyfel concwest ar raddfa lawn. Ar ôl i'w fyddin drechu a lladd y tywysog Llywelyn ap Gruffydd, daeth Cymru o dan reolaeth Lloegr. Adeiladodd Edward gyfres o gestyll a threfi yng nghefn gwlad a rhoi Saeson i fyw yno. Nesaf, cyfeiriwyd ei ymdrechion tuag at Deyrnas yr Alban. Parhaodd y rhyfel a ddilynodd hyd yn oed ar ôl ei farwolaeth. Ar yr un pryd, roedd Edward yn rhyfela â Ffrainc, a oedd yn un o gynghreiriaid yr Alban, ar ôl i’r Brenin Philippe IV o Ffrainc atafaelu Dugiaeth Vasconia. Er i Edward adfer ei ddugiaeth, rhyddhaodd y gwrthdaro hwn bwysau milwrol Lloegr yn erbyn yr Alban. Ar yr un pryd roedd problemau gartref. Yng nghanol y 1290au, arweiniodd cost ei ryfeloedd at lefelau uchel o drethiant, a chyfarfu Edward â gwrthwynebiad gan ei bobl ei hun. Pan fu farw'r Brenin ym 1307, gadawodd i'w fab Edward II ryfel parhaus gyda'r Alban a llawer o broblemau ariannol a gwleidyddol.