Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 432, 424 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 4,238.03 ha |
Cyfesurynnau | 51.766°N 4.566°W |
Cod SYG | W04000502 |
Cod OS | SN230106 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Samuel Kurtz (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Simon Hart (Ceidwadwr) |
Cymuned a phlwyf yn ne-orllewin Sir Gaerfyrddin yw Eglwys Gymyn. Ymestynna'r gymuned ar hyd yr arfordir at y ffin â Sir Benfro. Mae'n cynnwys pentrefi Marros a Rhos-goch.
Ail godwyd Eglwys Gymun gan Margaret Marlos yn y 14g, a chafodd ei chysegru i'r Santes Margaret o'r Alban. Roedd y rheithor rhwng 1730 a 1782, John Evans, yn un o brif elynion Griffith Jones, Llanddowror a'r Methodistiaid. Roedd y Methodist Peter Williams yn gurad yma, ond diswyddodd John Evans ef.
Ceir nifer o siamberi claddu Neolithig a bryngaer o Oes yr Haearn o fewn y gymuned.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan Simon Hart (Ceidwadwr).[2]
Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 462.