Our website is made possible by displaying online advertisements to our visitors.
Please consider supporting us by disabling your ad blocker.

Responsive image


Eisteddfod

Eisteddfod
Mathgŵyl ddrama, gŵyl gerddoriaeth, gŵyl lenyddol, gŵyl ddiwylliannol Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Dechrau/Sefydlu1176 Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cystadleuaeth rhwng adroddwyr, llefarwyr, llenorion, cantorion a cherddorion yw'r Eisteddfod fodern yn bennaf. Cynhelir Eisteddfodau mawr a bach ledled Cymru a hefyd ym Mhatagonia. Y mwyaf yw'r Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen. Mae'r Orsedd yn gysylltiedig â'r Eisteddfod yn arbennig yr Eisteddfod Genedlaethol sy'n ŵyl symudol.

Buddug Morwena Jones, Mam y Fro yn Eisteddfod 1955.

Creadigaeth gymharol fodern yw'r Eisteddfod Genedlaethol sy'n esiampl o sut mae gwladgarwch a'r dymuniad i ail-greu traddodiad yn cydorwedd yn daclus yn aml. Efelychiad ohoni yw gŵyl yr Urdd a sefydlwyd yn 1929 ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen a sefydlwyd yn 1947. Daeth Eisteddfod y Glowyr i ben yn 2001 (sefydlwyd 1948) wrth i'r diwydiant glo hefyd farw. Bu'r eisteddfod hefyd yn nodwedd bwysig ar ddiwylliant cymunedau o Gymry alltud yn Lloegr, Awstralia, Gogledd America, Patagonia, a De Affrica.


Previous Page Next Page






Eisteddfod BR Eisteddfod Catalan Eisteddfod German Eisteddfod English Eisteddfod Spanish Eisteddfod EU Eisteddfod Finnish Eisteddfod French Eisteddfod GA Eisteddfod GL

Responsive image

Responsive image