Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.11°N 3.19°W |
Cod OS | SJ203578 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Ken Skates (Llafur) |
AS/au y DU | Simon Baynes (Ceidwadwyr) |
Pentref a phlwyf yn Sir Ddinbych yw Eryrys( ynganiad ). Saif bum milltir i'r de o dref yr Wyddgrug ac ychydig i'r gogledd-ddwyrain o bentref Llanarmon-yn-Iâl ar fryn carreg galch Bryn Alyn (Cyfeirinod grid OS: SJ203578). Mae'r pentref 350m uwch lefel y môr, ac yn un o'r cystadleuwyr am y teitl o fod yn bentref uchaf Cymru, sef 1,123 troedfedd.[1] Y ddau arall yw: Bwlchgwyn, Wrecsam (335m) a Garn-yr-Erw, Torfaen (390m).[2] Saif ar ffin Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd.[3]
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Ken Skates (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Simon Baynes (Ceidwadwyr).[4][5]