Math | esgobaeth Anglicanaidd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.67°N 3°W |
Un o'r chwe esgobaeth sy'n ffurfio'r Eglwys yng Nghymru yw Esgobaeth Mynwy. Crëwyd yr esgobaeth yn 1921 o ran ddwyreiniol Esgobaeth Llandaf, â ffiniau a oedd yn cyfateb yn fras i'r hen Sir Fynwy (a ddaeth yn sir seremonïol Gwent yn 1974). Eglwys Gadeiriol Sant Gwynllyw, Casnewydd yw'r eglwys gadeiriol.