Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.103°N 4.377°W |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Elin Jones (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Ben Lake (Plaid Cymru) |
Pentref bychan yn ne Ceredigion yw Ffostrasol ( ynganiad ). Mae'n gorwedd ar yr A486 rhwng Synod Inn a Llandysul, ac mae'n ffurfio rhan o blwyf Llangynllo ac ardal Cyngor Cymuned Troed-yr-Aur.
Mae'r pentref yn gorwedd ar groesffordd wledig sy'n ei gysylltu â phentref Plwmp i'r gogledd, Synod Inn i'r gogledd-ddwyrain, Castell Newydd Emlyn i'r de-orllewin, a Llandysul i'r de-ddwyrain.
Y pentrefi agosaf yw Capel Cynon, tua 2 filltir i'r gogledd ar yr A486 a Bwlchygroes, tua hanner milltir i'r de. Am flynyddoedd lawer dyma gartref Gŵyl Werin y Cnapan a oed yn un o wyliau gwerin cyntaf a mwyaf llwyddiannus Cymru.
Mae gan y pentref Glwb Pêl Droed sydd yn chwarae ar gae Troedyrhiw yng Nghyngrair Ceredigion ac mae gan Ffostrasol hefyd dîm Talwrn y Beirdd.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2]