Y ffynnon yr enwir y pentref ar ei hôl | |
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Llanasa |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.3304°N 3.3004°W |
Cod OS | SJ134823 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Hannah Blythyn (Llafur) |
AS/au y DU | Becky Gittins (Llafur) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Pentref yng nghymuned Llanasa, Sir y Fflint, Cymru, yw Ffynnongroyw[1][2] ( ynganiad ). Fe'i lleolir ym mhen ogleddol y sir ar lan orllewinol Glannau Dyfrdwy, i'r de o Dalacre. Saif ar briffordd yr A548, tua hanner ffordd rhwng Prestatyn i'r gorllewin a Mostyn i'r dwyrain.
Enwir y pentref ar ôl y Ffynnongroyw, ffynnon naturiol mewn llecyn ym mhen Lôn y Ffynnon. Ceir carreg yn do arni a gril (diweddar) i'w hamddiffyn. Tu ôl i'r pentref cyfyd bryniau cyntaf Bryniau Clwyd, gan ffurfio ymyl ddwyreiniol Dyffryn Clwyd. Mae Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru yn mynd rhwng y pentref a'r arfordir, ond does dim gorsaf yno.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Becky Gittins (Llafur).[4]