![]() | |
Arwyddair | In God We Trust ![]() |
---|---|
Math | taleithiau'r Unol Daleithiau ![]() |
Enwyd ar ôl | Pasg ![]() |
Prifddinas | Tallahassee ![]() |
Poblogaeth | 21,538,187 ![]() |
Sefydlwyd | |
Anthem | Old Folks at Home, Florida, Where the Sawgrass Meets the Sky ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Ron DeSantis ![]() |
Cylchfa amser | Cylchfa Amser y Dwyrain ![]() |
Gefeilldref/i | Wakayama ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | taleithiau cyfagos UDA, South Atlantic states ![]() |
Sir | Unol Daleithiau America ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 170,304 km² ![]() |
Uwch y môr | 30 metr ![]() |
Gerllaw | Gwlff Mecsico, Cefnfor yr Iwerydd, Florida Strait ![]() |
Yn ffinio gyda | Georgia, Alabama ![]() |
Cyfesurynnau | 28.1°N 81.6°W ![]() |
US-FL ![]() | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Government of Florida ![]() |
Corff deddfwriaethol | Florida Legislature ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Governor of Florida ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Ron DeSantis ![]() |
![]() | |
Un o daleithiau dwyreiniol Unol Daleithiau America yw Talaith Florida neu Florida, neu weithiau'n Gymraeg: Fflorida,[1] gorynys fawr rhwng y Cefnfor Iwerydd a'r Gwlff Mecsico. Fe enwodd Juan Ponce de León y dalaith yn 1513. Ym 1763 bu Prydain yn ffeirio Cuba am Florida wedi i'r Prydeinwyr meddiannu dinas La Habana/Hafana. Symudwyd y boblogaeth Sbaeneg i Guba wedyn. Yn 2010 roedd y boblogaeth yn 18,801,310.[2]
Mae gan y dalaith arwynebedd o 65,755 milltir sgwâr (170,305 km2), a dyma yw'r 22 dalaith fwyaf o ran maint o holl daleithiau'r Unol Daleithiau. Mae gan Florida yr arfordir cydgyffyrddol hiraf yn yr Unol Daleithiau, yn gorchuddio tua 1,350 o filltiroedd (2,170 km). Ceir pedair ardal ddinesig fawr, nifer o ddinasoedd diwydiannol llai o ran maint, a nifer o drefi bychain yno.
Roedd Florida’r 27ain o’r taleithiau i ymuno â’r Unol Daleithiau ym 1845. Prifddinas y dalaith yw Tallahassee.
O’r 19g ymlaen daeth pobl o daleithiau eraill, denwyd gan dywydd cynhesach Florida. Erbyn y 20g roedd twristiaeth wedi dod yn bwysig i Florida. Agorwyd Disney World ym 1971. Mae ganddo maint o 30,500 o aceri, ac yn denu tua 46 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn.[3]
Mae Canolfan Ofod Kennedy wedi bod yn allweddol i gyflawniadau’r Unol Daleithiau yn y maes Gofod ac hefyd yn denu twristiaid.
Mae gan Florida gorsydd mawr. Yr un mwyaf yw Cors Everglades. Rhennir un arall, Cors Okefenokee, efo Georgia.
|deadurl=
ignored (help)