Llenyddiaeth Saesneg Canol |
---|
![]() |
Barddoniaeth gynnar |
Yr adfywiad cyflythrennol |
Oes Chaucer |
Rhamant Saesneg Canol ar fydr yw Floris and Blancheflour sy'n dyddio o cyfnod cynnar y 13g. Ysgrifennir mewn 1,083 o linellau, ac mae'n goroesi mewn pedair llawysgrif sy'n dyddio o gyfnodau diweddarach, er bod pob un o'r rheiny yn hepgor llinellau agoriadol y gerdd. Mae'n seiliedig ar ramant Hen Ffrangeg o'r 12g. Caiff y ddau brif gymeriad eu magu gyda'i gilydd: mab i frenin o Sarasen ydy Floris, a merch i uchelwraig Gristnogol a gipiwyd i lys y brenin ydy Blancheflour. Maent yn cwympo mewn cariad, a chaiff Blancheflour ei halltudio. Â Floris ar grwydr i'w chanfod, a chwpan werthfawr a modrwy hudol yn ei feddiant, i gynorthwyo'r chwilfa. Fe lwydda i ddod o hyd i'w gariad, ac maen yn ennill caniatâd yr Emir i briodi.[1]