Ym mytholeg Iwerddon, roedd y Fomoriaid neu'r Fomori (Gwyddeleg : Fomóiri, Fomóraig, ynganiad yn Gymraeg : Ffoforé) yn hil lled-ddwyfol a breswyliai Iwerddon mewn cynhanes. Mae'n bosibl eu bod yn cynrychioli math o gewri neu led-dduwiau cyntefig, cyffelyb i'r Titaniaid ym mytholeg Roeg.
Fe awgrymir gan rai eu bod yn cynrychioli duwiau anhrefn a natur wyllt, mewn gwrthgyferbyniad â'r Tuatha Dé Danann sy'n cynrychioli duwiau gwareiddiaid. Posiblrwydd arall yw eu bod yn cynrychioli poblogaeth cyn-Oidelig Iwerddon, wedi eu troi'n creaduriaid mytholegol.
Un cynnig i esbonio'r enw Fomor yw ei fod yn dod o fo (Cymraeg go, sef 'dan') a mor ('môr'), sef cewri sy'n byw dan y môr.