Math o gyfrwng | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Mary Shelley |
Gwlad | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 1 Ionawr 1818, 1818 |
Dechrau/Sefydlu | 1810 |
Genre | Nofel epistolaidd, body horror literature, ffuglen Gothig, gwyddonias, ffantasi, epig |
Rhagflaenwyd gan | History of a Six Weeks' Tour |
Olynwyd gan | Valperga |
Cymeriadau | Anghenfil Frankenstein, Elizabeth Lavenza, Doctor Waldman |
Lleoliad cyhoeddi | Llundain |
Yn cynnwys | Mary Shelley |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Nofel epistolaidd o 1818 gan yr awdur o Saesnes Mary Shelley yw Frankenstein; or, The Modern Prometheus. Mae'r llyfr yn adrodd hanes Victor Frankenstein, gwyddonydd ifanc sy'n creu creadur lled-dynnol. Dechreuodd Shelley ysgrifennu’r stori pan oedd yn 18 oed, a chyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf yn ddienw yn Llundain ar 1 Ionawr 1818, pan oedd yn 20 oed. Ymddangosodd ei henw yn yr ail argraffiad, a gyhoeddwyd ym Mharis yn 1821.
Mae Victor Frankenstein yn wyddonydd sy'n ceisio creu bywyd ei hun. Mae teitl llawn y nofel yn cymharu Victor â'r cymeriad mytholegol Promethëws, a luniodd fodau allan o glai a rhoi tân iddynt. Mae Victor yn pwytho ynghyd rannau o gyrff marw troseddwyr a ddienyddiwyd wrth y crocbren. Daw ei greadigaeth yn fyw yn ystod storm o fellt a tharanau. Mae Frankenstein yn cael ei ddychryn gan ei anghenfil newydd, ac mae'n ffoi. Mae'r anghenfil yn treulio blynyddoedd yn chwilio am le yn y byd ond mae pobl yn ei ofni. Ar ôl blynyddoedd yn unig, mae'n dychwelyd i Frankenstein i ofyn iddo wneud creadur arall i fod yn wraig iddo. Mae Frankenstein yn erlid yr anghenfil i'r Arctig, ac yn marw wrth erlid y creadur. Mae'r anghenfil yn galaru dros gorff Victor cyn diflannu i'r niwl.
Mae'r stori wedi parhau i swyno'r cyhoedd ac artistiaid eraill, ac mae Victor Frankenstein a'i anghenfil wedi'u darlunio mewn llawer o weithiau eraill, yn enwedig ffilmiau.
Mewn diwylliant poblogaidd, mae'r enw "Frankenstein" wedi'i ddefnyddio'n aml, ar gam, i gyfeirio at yr anghenfil, yn hytrach nag at Victor Frankenstein, ei greawdwr.