Math | talaith hanesyddol yn Ffrainc, ardal ddiwylliannol, Q12949943 |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Ffrainc |
Cyfesurynnau | 44°N 0.5°W |
Tywysogaeth yn ne-orllewin Ffrainc yn y Canol Oesoedd, ac yn ddiweddarach un o daleithiau Ffrainc, oedd Gasgwyn (Ffrangeg: Gascogne).
Daw'r enw o lwyth y Vascones, efallai hynafiaid y Basgiaid. Y brifddinas hanesyddol oedd Auch, gyda'r prif drefi eraill yn cynnwys Baiona (Bayonne), Bordeaux, Dax, Pau a Tarbes. Yr iaith leol yw Gasconeg, sy'n dafodiaith o'r iaith Occitaneg.
Yn y cyfnod Rhufeinig, trigai pobl yr Aquitani yn y tiriogaethau hyn; roedd eu hiaith hwy, Aquitaneg, yn ffurf gynnar ar yr iaith Fasgeg neu'n perthyn yn agos. Dros y blynyddoedd, collwyd yr iaith yma. Yn 297, pan oedd yr ymerawdwr Diocletian yn ail-drefnu gweinyddiad yr Ymerodraeth Rufeinig, rhannwyd talaith Gallia Aquitania yn dair rhan, gyda'r diriogaeth i'r de o Afon Garonne yn dod yn dalaith Novempopulana, oedd yn cyfateb yn fras i diriogaeth Gasgwyn. Yn ddiweddarach, daeth y rhan fwyaf o'r diriogaeth yn rhan o Ddugiaeth Vasconia.
Yn rhan gyntaf yr 11g, roedd yn un o gyngheiriaid Teyrnas Navarra. Yn 1032, etifeddwyd y ddugiaeth gan aer dugiaeth Aquitaine,a bu'r ddwy ddugiaeth mewn undeb personol wedi hynny. Trwwy hyn daeth Gasgwyn yn rhan o'r Ymerodraeth Angevin, ac felly'n un o feddiannau Lloegr yn ystod y Rhyfel Can Mlynedd rhwng Lloegr a Ffrainc. Erbyn diwedd y rhyfel hwnnw, roedd Ffrainc wedi meddiannu Gasgwyn, a bu'n dalaith o Ffrainc hyd y Chwyldro Ffrengig.