Enghraifft o: | gwaith ysgrifenedig, geiriadur cyfieithu ![]() |
---|
Geiriadur Spurrell yw'r geiriadur cyfieithu Cymraeg / Saesneg - Saesneg / Cymraeg gorau ei werthiant o'r holl eiriaduron Cymraeg. Cyhoeddwyd y fersiwn gyntaf o'r llyfr ym 1848. Er nad oes lawer yn gyffredin rhwng yr argraffiad cyntaf a'r argraffiad diweddaraf, roedd Collins Spurrell Welsh Dictionary dal mewn print yn 2019, dros 150 o flynyddoedd wedi ei argraffiad cyntaf.[1]