Enghraifft o: | digwyddiad aml-chwaraeon |
---|---|
Dyddiad | 2010 |
Dechreuwyd | 3 Hydref 2010 |
Daeth i ben | 14 Hydref 2010 |
Cyfres | Gemau'r Gymanwlad |
Lleoliad | Delhi, Jawaharlal Nehru Stadium |
Yn cynnwys | badminton at the 2010 Commonwealth Games, archery at the 2010 Commonwealth Games, lawn bowls at the 2010 Commonwealth Games, boxing at the 2010 Commonwealth Games, weightlifting at the 2010 Commonwealth Games, hockey at the 2010 Commonwealth Games, athletics at the 2010 Commonwealth Games, netball at the 2010 Commonwealth Games, cycling at the 2010 Commonwealth Games, wrestling at the 2010 Commonwealth Games, rugby sevens at the 2010 Commonwealth Games, shooting at the 2010 Commonwealth Games, swimming at the 2010 Commonwealth Games, squash at the 2010 Commonwealth Games, synchronised swimming at the 2010 Commonwealth Games, tennis at the 2010 Commonwealth Games, table tennis at the 2010 Commonwealth Games, gymnastics at the 2010 Commonwealth Games, diving at the 2010 Commonwealth Games |
Rhanbarth | Delhi |
Gwefan | http://www.cwgdelhi2010.org/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
19eg Gemau'r Gymanwlad | |||
---|---|---|---|
Campau | 21 | ||
Seremoni agoriadol | 3 Hydref | ||
Seremoni cau | 14 Hydref | ||
Agorwyd yn swyddogol gan | Tywysog Cymru | ||
|
Gemau'r Gymanwlad 2010 oedd y pedwerydd tro ar bymtheg i Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Delhi Newydd, India oedd cartref y Gemau rhwng 3 - 14 Hydref. Cafwyd cyfarfod i ddewis y ddinas fyddai'n cynnal y Gemau yn ystod Cyfarfod Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad yn Jamaica ym mis Tachwedd 2003 gyda Delhi Newydd yn ennill y bleidlais gyda 46 pleidlais i 22 Hamilton, Ontario, Canada.
Cyflwynyd Tenis i'r Gemau am y tro cyntaf ond bu raid i'r trefnwyr beidio cynnwys Triathlon gan nad oedd unrhyw leoliad addas ar gyfer y cymal nofio[1]. Er bod galw am ail gyflwyno Criced nid oedd Bwrdd Criced India'n awyddus i ddilyn cais y trefnwyr am gystadleuaeth 20Pelawd yn hytrach na chystadleuaeth un dydd[2].
Y tîm cartref oedd â'r nifer fwyaf o athletwyr, gyda 495 yn cynrychioli India a Twfalw oedd â'r tîm lleiaf gyda dim ond tri athletwr.
Cafwyd athletwyr o Rwanda am y tro cyntaf ers i'r wlad ymuno â'r Gymanwlad ym 2009[3] ond ni chafodd Ffiji gystadlu gan eu bod wedi eu gwahardd o'r Gymanwlad[4].