Enghraifft o: | Gemau Olympaidd yr Haf |
---|---|
Dyddiad | 1908 |
Dechreuwyd | 27 Ebrill 1908 |
Daeth i ben | 31 Hydref 1908 |
Rhagflaenwyd gan | Gemau Olympaidd yr Haf 1904, 1906 Intercalated Games |
Olynwyd gan | Gemau Olympaidd yr Haf 1912 |
Lleoliad | White City Stadium, Llundain |
Gwefan | https://olympics.com/en/olympic-games/london-1908 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cynhaliwyd Gemau Olympaidd 1908, a adnabyddir yn swyddogol fel Gemau'r Olympiad IV, yn Llundain yn 1908. Bwriadwyd cynnal y gemau hyn yn Rhufain yn wreiddiol. Ar y pryd, rhain oedd y pumed Gemau Olympaidd Modern. Ond fe is-raddiwyd Gemau Olympaidd 1906 ers hynny gan y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol ac felly ystyrir gemau 1908 i fod y pedwerydd Gemau Olympaidd Modern, gan gadw o fewn y patrwm cylchred pedair mlynedd. Llywydd y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol oedd Baron Pierre de Coubertin. Bu Thomas Scott-Ellis, 8fed Barwn Howard de Walden, perchennog Castell y Waun yn cystadlu yn y gystadleuaeth rasio cychod.
Roedd yr awdurdodau Eidalaidd yn paratoi'r isadeileddau ar gyfer y gemau pan echdorodd Vesuvius ar y 7fed o Ebrill 1906, gan ddinistrio dinas Napoli ger llaw. Fe ail-gyfeirwyd yr arian a neilltuwyd ar gyfer y gemau tuag at ail-adeiladu Napoli, felly roedd angen lleoliad newydd. Dewiswyd Llundain, a chynhaliwyd y gemau yn White City wrth ochr yr Arddangosfa Ffranco-Brydeinig, a oedd yn ddigwyddiad llawer mwy nodweddiadol ar y pryd. Berlin a Milan oedd yr ymgeiswyr eraill i gynnal y Gemau.