Y llythrennau "Jīng" (京), sef yr enw am y ddinas ar logo'r gemau. | |
Dinas | Beijing, Tseina |
---|---|
Arwyddair | One World, One Dream (同一个世界 同一个梦想) |
Gwledydd sy'n cystadlu | 204 |
Athletwyr sy'n cystadlu | 11,028[1] |
Cystadlaethau | 302 mewn 28 o Chwaraeon Olympaidd |
Seremoni Agoriadol | Awst 8 |
Seremoni Gloi | Awst 24 |
Agorwyd yn swyddogol gan | Hu Jintao, Arlywydd Gweriniaeth Pobl Tsieina |
Llw'r Cystadleuwyr | Zhang Yining |
Llw'r Beirniaid | Huang Liping |
Cynnau'r Fflam | Li Ning |
Stadiwm Olympaidd | Stadiwm Cenedlaethol Beijing |
Digwyddiad aml-chwaraeon rhyngwladol pwysig oedd Gemau Olympaidd yr Haf 2008, a adnabyddwyd yn swyddogol fel Gemau'r XXIX Olympiad, cynhaliwyd yn Beijing, Tsieina o 8 Awst (gyda'r pêl-droed yn cychwyn ar y 6 Awst) hyd 24 Awst 2008. Dilynwyd y rhain gyda Gemau Paralympaidd yr Haf 2008 o 6 Medi hyd 17 Medi. Disgwylwyd i 10,500 o chwaraewyr gymryd rhan mewn 302 o gystadleuthau mewn 28 o chwaraeon, un cystadleuaeth yn fwy na gemau 2004.[2] Roedd gemau 2008 Beijing hefyd yn nodi'r trydydd tro i'r cystadleuthau gael eu cynnal mewn tiriogaeth dau Pwyllgor Olympiadd Cenedlaethol gwahanol, gan cynhaliwyd y marchogaeth yn Hong Cong.
Enillodd Nicole Cooke y ras ffordd i ferched gan roi i Gymru y fedal aur gyntaf ers i Richard Meade ennill mewn marchogaeth yng Ngemau Olympaidd 1972. Enillodd dau Gymro arall fedalau aur: Geraint Thomas am seiclo a Tom James am rwyfo.