Afon Taf yn llifo drwy Lan Abad | |
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Rhondda Cynon Taf |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.5736°N 3.2944°W |
Cod OS | ST108872 |
Gwleidyddiaeth | |
Pentref ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, Cymru, yw Glan-bad (Saesneg: Upper Boat). Fe'i lleolir ar gyrion Pontypridd.
Mae'n adnabyddus ym myd y cyfryngau fel lleoliad Upper Boat Studios BBC Cymru, lle cynhyrchir y fersiwn newydd o Doctor Who, ynghyd â'r cyfresi teledu sy'n deillio ohono, sef Torchwood a The Sarah Jane Adventures.
Daw'r enw Glan-bad/Upper Boat o'i leoliad ar y gamlas hanesyddol sy'n cysylltu Caerdydd ac Abercynon. Roedd y rhan o'r gamlas rhwng Abercynon a thrwy Pontypridd i Lan-bad yn gul iawn am ei bod mewn cwm cul. Ond ar ôl Glan-bad mae'r cwm yn lledaenu ac adeiladwyd camlas fwy llydan. Arferid trosglwyddo llwythi i fadau llai yng Nglan-bad a dyna sut y cafodd ei enw, yn achos y Gymraeg a'r Saesneg.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mick Antoniw (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Alex Davies-Jones (Llafur).[1][2]