![]() | |
Math | pentrefan ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 275.5 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 53.0388°N 3.610824°W ![]() |
Cod OS | SH920502 ![]() |
Cod post | LL21 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Darren Millar (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | David Jones (Ceidwadwr) |
![]() | |
Pentref gwledig bychan yng nghymuned Cerrigydrudion, bwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Glasfryn.[1][2] Saif yn y bryniau ar lôn yr A5 tua 4 milltir i'r gorllewin o bentref Cerrigydrudion a thua'r un pellter i'r dwyrain o Bentrefoelas, ar y ffordd rhwng Corwen a Betws-y-Coed. Roedd yn Sir Ddinbych gynt.
Mae'n gorwedd yn ardal Uwch Aled. Cyfyd Mynydd Hiraethog i'r gogledd o'r pentref.
Llifa Afon Merddwr i lawr o'r bryniau ger y pentref i lifo i lawr y dyffryn i ymuno ag Afon Conwy ger Pentrefoelas. Gerllaw ceir Llyn y Cwrt gyda ffrwd fechan yn llifo ohono i Afon Merddwr.[3]