Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.238897°N 4.142959°W |
Cod OS | SH570734 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Llinos Medi (Plaid Cymru) |
Pentref bychan yng nghymuned Cwm Cadnant, Ynys Môn, yw Glyn Garth.[1] Saif yn ne'r ynys ar y briffordd A525 rhwng Porthaethwy a Biwmares.
Yn y Canol Oesoedd, yma roedd plasdy Esgob Bangor, ac roedd y fferi rhwng Bangor a Glyn Garth yn cael eu hystyried y bwysicaf o'r fferïau rhwng Môn ag Arfon cyn adeiladu'r pontydd dros Afon Menai. Erbyn hyn, mae bloc mawr o fflatiau ar y safle lle'r oedd plasdy'r esgob. Gerllaw, mae gwesty'r Gazelle.