Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.9754°N 3.2679°W |
Cod OS | SJ149427 |
Gwleidyddiaeth | |
Pentref yn Sir Ddinbych yw Glyndyfrdwy( ynganiad ); yn flaenorol yn yr hen Sir Feirionnydd. Yr hen enw arno oedd Llansantffraid Glyn Dyfrdwy[1]. Saif ar y briffordd A5, hanner ffordd rhwng Corwen a Llangollen, ger Afon Dyfrdwy.
Mae'r pentref yn enwog am ei gysylltiad ag Owain Glyn Dŵr, Arglwydd Glyndyfrdwy. Yn ei blastŷ yma y cyhoeddodd Owain ei hun yn Dywysog Cymru ar 16 Medi 1400. Dinistriwyd y tŷ gan fyddin Seisnig dan y tywysog Harri, yn ddiweddarach Harri V yn 1403, a dim ond olion y mwnt a'r sylfeini sydd i'w gweld heddiw. Gerllaw mae olion castell mwnt a beili o'r 12g.
Yn Neuadd Goffa Owain Glyn Dŵr, gellir gweld copi o Lythyr Pennal a llythyr yn cadarnhau apwyntiad Canghellor Owain, Gruffydd Yonge, a brawd-yng-nghyfraith Owain, John Hanmer, fel llysgenhadon i frenin Ffrainc.
Crewyd plwyf Glyndyfrdwy yn 1866; cyn hynny roedd yn rhan o blwyf Corwen. Agorwyd gorsaf reilffordd yma yn 1866. Caewyd hi yn y 1960au, ond ail-agorwyd hi fel gorsaf ar Reilffordd Llangollen yn 1992.
Roedd R. J. Berwyn, un o arloeswyr Y Wladfa, yn enedigol o Lynceiriog.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Ken Skates (Llafur)[2] ac yn Senedd y DU gan Simon Baynes (Ceidwadwyr).[3]