Gordon Brown AS | |
| |
Cyfnod yn y swydd 27 Mehefin 2007 – 11 Mai 2010 | |
Rhagflaenydd | Tony Blair |
---|---|
Olynydd | David Cameron |
Canghellor y Trysorlys
| |
Cyfnod yn y swydd 2 Mai 1997 – 28 Mehefin 2007 | |
Rhagflaenydd | Kenneth Clarke |
Olynydd | Alistair Darling |
Geni | 20 Chwefror 1951 Glasgow, Yr Alban, DU |
Etholaeth | Kirkcaldy a Cowdenbeath |
Plaid wleidyddol | Llafur |
Priod | Sarah Brown |
Cyn-Brif Weinidog y Deyrnas Unedig yw James Gordon Brown (ganwyd 20 Chwefror, 1951 yn Govan, Glasgow, yr Alban). Cymerodd y swydd ar 27 Mehefin, 2007, tridiau ar ôl dod yn arweinydd y Blaid Lafur. Yn gynt fe wasanaethodd fel Canghellor y Trysorlys dan Tony Blair o 1997 tan 2007, y cyfnod hwyaf i Ganghellor wasanaethu ers Nicholas Vansittart ar ddechrau'r 19g. Mae'n aelod blaenllaw o Cyfeillion Llafur Israel.
Mae gan Brown radd Doethur mewn hanes o Brifysgol Caeredin a threuliodd ei yrfa gynnar yn gweithio fel newyddiadurwr teledu.[1][2] Cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol dros Ddwyrain Dunfermline yn 1983 ac yn AS dros Kirkcaldy a Cowdenbeath yn 2005; ymddeolodd fel AS cyn Etholiad Cyffredinol, 2015 pan gipiodd yr SNP'r sedd.[3][4]
Fel Prif Weinidog, bu Brown hefyd yn dal swyddi Prif Arglwydd y Trysorlys a Gweinidog dros y Gwasanaeth Sifil. Nodwyd cangelloriaeth Brown gan ddiwygiadau arwyddocaol mewn polisi ariannol a chyllidol Prydain, yn cynnwys trosglwyddiad pwerau gosod cyfraddau llog i Fanc Lloegr, gan ehangu a dwysau grymoedd y Trysorlys. Ei weithredoedd mwyaf dadleuol oedd diddymu cymorth Blaendreth Corfforaeth (ACT) yn ei gyllideb gyntaf – gweithred a gafodd ei beirniadu am ei heffaith ar gronfeydd pensiwn – [5] a dileu'r cyfradd treth 10c yn ei gyllideb derfynol yn 2007.[6]
Yn ystod ei gyfnod fel Prif Weinidog wynebodd Brown ôl-effeithiau'r argyfwng economaidd a gwladoliad cysylltiedig Northern Rock ayb, y ddadl dros y gyfradd treth 10c, cynnydd mewn prisiau olew a phetrol, a chwyddiant cynyddol. Mae Brown hefyd wedi dioddef o ganlyniad i ymchwiliadau i mewn i gyhuddiadau o roddion anweddus i'w blaid, brwydr wleidyddol ddrud dros gadw terfysgwyr honedig o dan glo am 42 niwrnod, a threchiadau sylweddol mewn is-etholiadau, megis Dwyrain Glasgow, 2008. Er i boblogrwydd Brown a'r Blaid Lafur gynyddu ar gychwyn ei brifweinidogaeth, mae'u safiadau mewn polau piniwm ers hynny wedi gostwng yn sylweddol.[7][8] Yn ystod haf 2008 bu sôn am her bosib i arweinyddiaeth Brown,[9][10][11][12] ond enciliodd fygythiad cystadleuaeth ym mis Hydref yn dilyn Cynhadledd y Blaid Lafur a gwaethygiad yr argyfwng economaidd.[13] Ymddiswyddodd fel Prif Weinidog ar 11 Mai, 2010.[14]