Gweision neidr | |
---|---|
![]() | |
Gwäell asgell aur - (Sympetrum flaveolum) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Odonata |
Is-urdd: | Anisoptera |
Teuluoedd[1] | |
$Uwchdeulu yw Aeshnoidea, Cordulegastroidea a Libelluloidea. $$Nid yw'n gytras |
Pryf gydag adenydd dwbwl sy'n perthyn i urdd Odonata yw gwas neidr (hefyd: gwas y neidr) (lluosog: gweision neidr). Mae'n byw ger llynnoedd, nentydd a gwernydd ac maen nhw'n bwyta mosgitos, gwybed, clêr, gwenyn, gloynnod byw a phryfed eraill. Nid ydynt yn brathu nac yn pigo pobl. Mae'r gair Groeg Anisoptera yn golygu "adenydd anwastad" gan fod yr adain cefn yn lletach na'r rhai blaen.[2]
Un o brif nodweddion y gwas neidr yw ei lygaid cyfansawdd enfawr, dau bâr o adenydd a chorff hir sy'n eu galluogi i weld bron i 360 gradd - i bob cyfeiriad. Fel pob pryfyn arall mae ganddyn nhw chwe choes; ond nid ydy'r rhan fwyaf ohonyn nhw, bellach, yn medru cerdded. Mae'r gwas y neidr ymhlith y pryfaid a all hedfan gyflymaf ac am gyfnod hir e.e. ar draws y cefnforoedd. Gallant hedfan i 6 chyfeiriad: ymlaen, yn ôl, i fyny, i lawr, i'r chwith ac i'r dde.[3] Mae'r Ymerawdwyr yn medru hedfan ar gyflymder uchaf o 10–15 metr yr eiliad (22–34 mya).
Dim ond am chwe mis mae rhai gweision y neidr yn byw, tra bod eraill yn byw cyn hired â chwe neu saith mlynedd.
Ceir oddeutu 3000 math gwahanol o weision neidr ac mae tua 5,900 o rywogaethau yn yr urdd Odonata gan gynnwys y mursennod.[4][5]