République Démocratique du Congo | |
Arwyddair | Cyfiawnder - Heddwch - Gwaith |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, gwlad |
Enwyd ar ôl | Afon Congo |
Prifddinas | Kinshasa |
Poblogaeth | 105,789,731 |
Sefydlwyd | 7 Medi 1822 (Annibyniaeth oddi wrth Gwlad Belg) 30 Mehefin 1960 |
Pennaeth llywodraeth | Ilunga Ilunkamba Sylvestre |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Ffrangeg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Canolbarth Affrica |
Gwlad | Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo |
Arwynebedd | 2,344,858 ±1 km² |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
Yn ffinio gyda | Gweriniaeth Canolbarth Affrica, De Swdan, Wganda, Rwanda, Bwrwndi, Tansanïa, Sambia, Angola, Gweriniaeth y Congo, Swdan, Camerŵn, Rwanda |
Cyfesurynnau | 2.9°S 23.7°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo |
Corff deddfwriaethol | Senedd Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo |
Pennaeth y wladwriaeth | Tshisekedi Tshilombo Felix |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog |
Pennaeth y Llywodraeth | Ilunga Ilunkamba Sylvestre |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $55,351 million, $58,066 million |
Arian | ffranc y Congo |
Cyfartaledd plant | 6.006 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.479 |
Gwlad yng Nghanolbarth Affrica yw Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo (Ffrangeg: République Démocratique du Congo). Y gwledydd cyfagos yw De Swdan a Gweriniaeth Canolbarth Affrica i'r gogledd, Gweriniaeth y Congo (Brazzaville) i'r gorllewin, Angola a Sambia i'r de, a Thansanïa, Rwanda, Bwrwndi ac Wganda i’r dwyrain. Mae ganddi boblogaeth o 105,789,731 (2023)[1]. Weithiau, fe'i gelwir gyda'i hen enw, Zaire, sef yr enw a ddefnyddid rhwng 1971 a 1997. O ran ei harwynebedd, hi yw'r wlad fwyaf yn Affrica is-Sahara, a'r ail fwyaf yng nghyfandir Affrica. Ers 2015, gwelwyd llawer o ymladd yn ardal Kivu, yn nwyrain y wlad.
Prifddinas a dinas fwyaf Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo yw Kinshasa.
Mae baner y wladwriaeth wedi newid sawl gwaith ers iddi ei hannibyniaeth yn 1960, oddi wrth Gwlad Belg. Y Prif Weinidog cyntaf oedd Patrice Lumumba (1925 – 1961) a'r Arlywydd oedd Joseph Kasa-Vubu (c. 1915 – 1969).
Ceir tystiolaeth o fodau dynol yno y wlad sy'n dyddio i 90,000 Cyn y presennol. Rhwng 14g a'r 19g roedd Teyrnas y Congo yn rheoli, wedi'i chanoli yn aber Afon Congo. Y Cymro Henry Morton Stanley oedd y dyn gwyn cyntaf i archwilio'r Congo, a hynny ar ran Leopold II o Wlad Belg a ffurfiolwyd 'hawliau' Gwlad Belg i'r wlad yng Nghynghrair Berlin yn 1885. Rhoddwyd yr enw Talaith Rydd y Congo' (Iseldireg: Kongo-Vrijstaat) arni.
Mae Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo yn hynod gyfoethog o ran adnoddau naturiol, ond mae ganddi ansefydlogrwydd gwleidyddol, diffyg seilwaith, problemau â llygredd a chanrifau o echdynnu mwynau; mewn geiriau eraill, mae wedi ei hecsbloetio. Heblaw am y brifddinas Kinshasa, mae'r ddwy ddinas fwyaf wedyn, Lubumbashi a Mbuji-Mayi, wedi'u seilio ar fwyngloddio. Mae allforio mwyaf y Congo yn fwynau amrwd, gyda Tsieina yn derbyn dros 50% o'i hallforion yn 2012. Yn 2016, roedd lefel datblygiad dynol y Congo yn y 176ed allan o 187 o wledydd gan y Mynegai Datblygu Dynol.