Math | chwedl |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Chwedl werin adnabyddus ar Ynys Môn yw chwedl Gwrachod Llanddona.
Yn ôl y chwedl cyrhaeddodd saith cwch mawr heb hwyl na rhwyfau i’r lan yn Nhraeth Coch gerllaw pentref Llanddona yn ne-ddwyrain Môn. Roedd y rhain yn wrachod, yn cynnwys Siani Bwt, Bella Fawr a Wini Wyllt a daethant yn enwog am eu gallu i felltithio (rheibio), yn enwedig Bella Fawr. Dywedid eu bod yn gallu newid eu ffurf a throi'n anifeiliaid, yn enwedig ysgyfarnogod. Ni chawsant groeso gan drigolion Llanddona, fodd bynnag. Pan ddaeth y gwrachod oddi ar y cwch roedden nhw'n sychedig iawn ac angen diod felly trawodd un o’r gwrachod ei ffon yn erbyn y llawr a dyma ffynnon ddŵr yn codi allan o’r tywod sych.
Mae llawer o bobl yn dweud bod y gwrachod wedi dod o Iwerddon neu Sbaen gan fod llawer o bobl yn y gwledydd hyn yn cael eu dienyddio am wneud drygau a melltithio. Yn ôl y chwedl pan dynnodd y gwrachod eu sgarffiau roedd pryfed yn dod allan ohonyn nhw.