Enghraifft o'r canlynol | gwrthdaro arfog, Gwrthdaro ethnig |
---|---|
Lladdwyd | 44,664 |
Rhan o | Gwrthdaro Arabaidd-Israelaidd, Israel–Palestine relations |
Dechreuwyd | 14 Mai 1948 |
Rhagflaenwyd gan | Intercommunal conflict in Mandatory Palestine |
Lleoliad | De Lefant |
Yn cynnwys | Gwrthdaro Israel-Gaza, 1948 Palestine War, Rhyfel Chwe Diwrnod, Rhyfel Yom Kippur, Palestinian insurgency in South Lebanon, Intifada Cyntaf Palesteina, Ail Intifada'r Palesteiniaid |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Anghydfod rhwng Gwladwriaeth Israel a'r Palesteiniaid yw'r gwrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd. Mae'r ddwy genedl yn hawlio yr un tir ac mae'r gwrthdaro'n ffurfio rhan o'r gwrthdaro Arabaidd-Israelaidd, sef gwrthdaro gwleidyddol a milwrol eangach rhwng Israel a'r byd Arabaidd. Mae'r gwrthdaro wedi bod yn ffactor ganolog yng ngwleidyddiaeth y Dwyrain Canol ers creu gwladwriaeth Israel yn 1948 pan orfodwyd cannoedd o filoedd o Balesteiniaid i ffoi o'u cartrefi yn yr hen Balesteina, ffoedigaeth a adnabyddir gan y Palesteiniaid fel Al Nakba (Arabeg: النكبة "Y Drychineb").
Ceisiwyd ateb dwy-wladwriaeth, sy'n golygu creu gwladwriaeth Balesteinaidd annibynnol ochr yn ochr ag Israel. Ar hyn o bryd, yn ôl nifer o arolygon barn, cytuna'r mwyafrif helaeth o Israeliaid a Phalesteiniaid taw ateb dwy-wladwriaeth yw'r ffordd orau i ddod â therfyn i'r gwrthdaro.[1][2][3] Ystyrir y Lan Orllewinol a Llain Gaza gan y mwyafrif o Balesteiniaid fel tir ar gyfer gwladwriaeth, barn a gefnogir gan y mwyafrif o Israeliaid.[4] Cefnogir ateb un-wladwriaeth gan ychydig o academyddion; mae'r syniad hwn yn galw ar Israel, Llain Gaza, a'r Lan Orllewinol i ffurfio un wladwriaeth sy'n cynnwys y ddwy genedl gyda hawliau cyfartal i bawb.[5][6] Fodd bynnag, mae anghytundeb sylweddol ynglŷn â ffurf unrhyw gytundeb terfynol a hefyd ynglŷn â'r lefel o hygrededd mae'r naill ochr yn ei weld yn y llall wrth gadw at ymrwymiadau sylfaenol.[3]
Mae ymatebion eraill i'r sefyllfa yn cynnwys cael gwared ar Wladwriaeth Israel yn gyfan gwbl a chreu gwladwriaeth newydd yn cynnwys tiriogaeth Israel, Llain Gaza a'r Lan Orllewinol yn ei lle; dyma hen safbwynt Mudiad Rhyddid Palesteina (PLO) a safbwynt presennol Hamas ac eraill. Ar y llaw arall mae rhai Israeliaid sy'n arddel Seioniaeth eithafol yn credu yn y syniad o greu "Israel Fwyaf" a fyddai'n ymestyn o lannau afon Ewffrates i Gwlff Suez, heb le i wladwriaeth Balesteinaidd o gwbl.