Our website is made possible by displaying online advertisements to our visitors.
Please consider supporting us by disabling your ad blocker.

Responsive image


Gwyddno Garanhir

Cymeriad chwedlonol Cymreig oedd Gwyddno Garanhir (neu Gwyddneu). Mae'n ymddangos gyntaf yn nhraddodiadau yr Hen Ogledd, ac mae Bonedd Gwŷr y Gogledd yn ei ddisgrifio fel un o ddisgynyddion y brenin Dyfnwal Hen.

Ymddengys mewn chwedloniaeth fel arglwydd Cantre'r Gwaelod, a leolid yn draddodiadol ym Bae Ceredigion, gyferbyn i Aberystwyth ac Aberdyfi. Cedwid y môr allan gan lifddorau, ond un diwrnod roedd y gwyliwr, Seithenyn, yn feddw, a boddwyd Cantre'r Gwaelod gan y môr. Mae'r gerdd Seithennin Saf Allan yn Llyfr Du Caerfyrddin yn cyfeirio at foddi "Maes Gwyddneu" (Maes Gwyddno).

Mae cyfeiriad at Gwyddno yn chwedl Culhwch ac Olwen, ac mae ei fab, Elffin ap Gwyddno, yn gymeriad amlwg yn y chwedl Hanes Taliesin fel noddwr Taliesin Ben Beirdd.


Previous Page Next Page






Gwyddno Garanhir BR Gwyddno German Gwyddno Garanhir English Gwyddno Garanhir French Gwyddno Garanhir GL Gwyddno Garanhir Italian 구이드노 가란히르 Korean Гвитно Журавлиные ноги Russian

Responsive image

Responsive image