Our website is made possible by displaying online advertisements to our visitors.
Please consider supporting us by disabling your ad blocker.

Responsive image


Gwyddorau cymdeithas

Gwyddorau cymdeithas
Enghraifft o'r canlynolclass used in Universal Decimal Classification, cangen o wyddoniaeth, disgyblaeth academaidd, arbenigedd, maes astudiaeth Edit this on Wikidata
Mathsocial sciences and humanities Edit this on Wikidata
Yn cynnwyseconomeg, gwyddor gwleidyddiaeth, anthropoleg, cymdeithaseg, seicoleg, social statistics, newspaper studies Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Astudiaethau sy'n ymwneud ag agweddau cymdeithasol a diwylliannol bodau dynol yw'r gwyddorau cymdeithas. Perthnasau a chysylltiadau cymdeithasol rhwng unigolion a grwpiau yw canolbwynt y gwyddorau cymdeithas. Yn eu cwmpas mae anthropoleg ddiwylliannol a chymdeithasol, cymdeithaseg, seicoleg gymdeithasol, gwyddor gwleidyddiaeth, ac economeg. Yn aml cynhwysir hefyd daearyddiaeth gymdeithasol ac economaidd, agweddau cymdeithasol addysg, hanes, astudiaethau cymharol o'r gyfraith, a rheolaeth a busnes.

Datblygodd y ddisgyblaeth hon yn sgil dyfodiad y dull gwyddonol yn ystod oes yr Oleuedigaeth. Yn y 19g fe'i rhennir yn anthropoleg, gwyddor gwleidyddiaeth, seicoleg, a chymdeithaseg, a chafodd damcaniaethau eang effaith sylweddol ar y maes. Ymhlith enwau mawr y cyfnod hwn oedd Auguste Comte, Karl Marx a Herbert Spencer. yn yr 20g datblygodd methodoleg y gwyddorau cymdeithas yn sylweddol: ymchwil mesurol, ystadegaeth, empiriaeth, a chymwyso'r maes at ddefnydd ymarferol.[1]

Ers y 1950au defnyddir y term gwyddorau ymddygiad hefyd am yr un bynciau a gwmpasir gan y gwyddorau cymdeithas. Mae'r term hwn yn tynnu sylw at y cysylltiad rhwng y gwyddorau cymdeithas a'r gwyddorau bywyd sy'n ymwneud ag ymddygiad dynol, megis anthropoleg fiolegol a seicoleg ffisiolegol.[2]

  1. (Saesneg) social science, The Columbia Encyclopedia, 6ed argraffiad (Gwasg Prifysgol Columbia, 2016).
  2. (Saesneg) social science. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Ebrill 2016.

Previous Page Next Page