Roedd Gwylliaid Cochion Mawddwy yn griw o herwyr yn ardal Mawddwy yn ystod y 16g a ddaeth yn enwog mewn llên gwerin.
Ystyrid ardal Mawddwy yn diriogaeth lle roedd anhawsterau mawr cadw cyfraith a threfn yn y cyfnod yma, gan ei bod yn ardal ar y ffin, rhwng y Mers a Meirionnydd. Yr unig wybodaeth hanesyddol sicr am y Gwylliaid yw eu bod wedi llofruddio Siryf Meirionnydd, y Barwn Lewys ab Owain, neu Lewis Owen, o Gwrt Plas-yn-dre, Dolgellau ar 12 Hydref 1555. Ymosodwyd ar y Barwn gan griw o’r Gwylliad yn Nugoed Mawddwy, ger Dinas Mawddwy. Crogwyd amryw o’r gwylliaid am y llofruddiaeth, ac mae marwnadau i Lewys ab Owen gan nifer o feirdd, yn cynnwys Gruffudd Hiraethog. Yn yr achos llys a ddilynodd y llofruddiaeth dywedwyd mai John Goch, neu John Goch ap Gruffudd ap Huw, oedd y gŵr a darawodd yr ergyd farwol.
Mae’r gweddill o’r wybodaeth am y Gwylliaid yn dod o ffynonellau megis Thomas Pennant, sy’n adrodd yr hanes wrth groniclo ei ymweliad a Dinas Mawddwy tua 1770. Nid oes sicrwydd a yw’r darn yma o’r stori yn hanes neu chwedl. Yn ôl Pennant roedd y Siryf wedi dal nifer o’r Gwylliaid ac am eu crogi, yn eu plith ddau fab i Lowri ferch Gruffudd Llwyd. Roedd un ohonynt yn ieuanc iawn, ac ymbiliodd Lowri wrth y Barwn am drugaredd iddo ef o leiaf, ond gwrthododd Lewys ab Owen wrando, a chrogodd y ddau yngyd a mwy nag 80 o wylliaid eraill. Dywedodd Pennant i Lowri fygwth dialedd ar y Siryf:
Enwir Lowri ferch Gruffudd Llwyd mewn achos llys yn Sesiwn Fawr y Bala yn 1558 yn dilyn y llofruddiaeth, ond disgrifir hi fel merch ddibriod. Mewn ymgais i’w hachub ei hun rhag y crocbren, dywedodd ei bod yn feichiog, a chadarnhawyd hynny gan reithgor o wragedd priod.
Erys y cof am y Gwylliaid mewn nifer o enwau lleoedd yn yr adral, er enghraifft Llety'r Gwylliaid a Llety'r Lladron ar Fwlch Oerddrws.